Jetzt loslegen. Gratis!
oder registrieren mit Ihrer E-Mail-Adresse
Gadael Cymru von Mind Map: Gadael Cymru

1. Tlodi: Roedd llawer o bobl yng Nghymru yn dlawd. Doedd dim digon o swyddi.

2. Cenedlaetholdeb Cymreig: Roedd rhai pobl eisiau cadw eu diwylliant a’u hiaith Gymraeg yn fyw. Roedd mynd i Batagonia yn golygu y gallent greu cymuned lle roeddent yn gallu siarad Cymraeg a pharhau â’u traddodiadau heb bwysau oddi wrth eraill. Roeddent wedi cael digon ar y Welsh Not.

3. Dim cyfleoedd: Roedd llawer o bobl yn teimlo nad oedd cyfleoedd am fywyd gwell yng Nghymru. Roedd yr economi yn wael, a doedd dim llawer o ffyrdd i bobl wella eu bywydau.

4. Pobl: Roedd llawer o bobl yng Nghymru, ond dim digon o dir i bawb. Roedd hyn yn golygu nad oedd digon o le i deuluoedd dyfu bwyd neu adeiladu cartrefi.

5. Rhyddid Crefyddol: Roedd rhai o bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai oedd yn mynd i’r Capel - yn chwilio am le lle gallent addoli'n rhydd.

6. Amodau Gwaith Drwg: Roedd llawer o bobl yn gweithio yn y pyllau glo a'r ffatrioedd yng Nghymru, lle roedd yr amodau’n beryglus ac roedd cyflogau’n isel. Roedd bywyd yn anodd i'r gweithwyr mwyngloddio a’r gweithwyr ffatri, ac roedd llawer eisiau mynd allan.

7. Adduned o dir: Ym Mhatagonia, roedd cyfle i gael tir i fermio. Roedd hyn yn apelio at lawer o deuluoedd Cymreig oedd yn breuddwydio am gael eu fferm eu hunain a dyfodol gwell.

8. Diweithdra: Nid oedd digon o swyddi i bawb yng Nghymru, yn enwedig yn y cymoedd. Doedd llawer o bobl ddim yn gallu dod o hyd i waith, oedd yn gwneud hi’n anodd i gynnal eu teuluoedd.

9. Rhent Uchel a Thai Gwael: Mewn rhai ardaloedd, roedd pobl yn byw mewn tai bach, orlawn oedd yn llaith ac yn ddrewllyd. Roedd rhent yn uchel iawn hefyd.